Lesbos

(Ailgyfeiriad o Lesvos)

Ynys Roeg yn y Môr Aegeaidd yw Lesbos (Groeg ddiweddar: Lésvos). Un o'r Ynysoedd Gogledd Aegeaidd, mae'n gorwedd yn agos iawn i dir mawr Twrci. Ei chanolfan yw dinas Mitilene (weithiau gelwir yr ynys ei hun 'Mitilini' nei 'Mitilene', ar ôl ei brif ddinas). Tyfir yr olewydden a chnydau grawn yno. Mae pysgota sardîns yn bwysig hefyd ond y prif ddiwydiant heddiw yw twristiaeth. Ar ôl Crete ac Euboea Lesbos yw'r fwyaf o'r ynysoedd Aegaeaidd.

Lesbos
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth90,634 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserEET Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMôr Aegeaidd Edit this on Wikidata
SirGogledd Aegeaidd, Lesbos Regional Unit Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd1,641 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr968 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Aegeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.21°N 26.28°E Edit this on Wikidata
Cod post810–819 Edit this on Wikidata
Map

Ceir olion presenoldeb pobl o'r oes Neolithig ar Lesbos. Ymsefydlodd y Groegiaid ar yr ynys tua 1000 CC. Blodeuodd diwylliant Groeg yno ac fe'i cysylltir yn arbennig â barddoniaeth Roeg delynegol a gwaith Sappho ac Alcaeus. Roedd yr ynys yn rhan o Aeolis ac yn aelod o Gynhgrair Delos yng Ngroeg yr Henfyd. Yn ddiweddarach daeth i feddiant y Rhufeiniaid a gwnaethpwyd Mitilene yn borthladd rhydd ganddynt.

Codwyd nifer o eglwysi hardd yno ar ddechrau'r cyfnod Bysantaidd. Roedd yn arfer alltudio pobl i Lesbos, e.e. yr ymerodres Irene yn 809. Yn ystod y canrifoedd nesaf newidiai ddwylo yn aml rhwng y Bysantiaid, y Croesgadwyr, y Saraseniaid a'r Tyrciaid. Syrthiodd i'r Otomaniaid yn 1462. Brodor o'r ynys oedd y môr leidr Khair-ed-din Barbarossa. Daeth yn rhan o Wlad Groeg yn 1912.