Lisa Kudrow
Mae Lisa Valerie Kudrow (ganed 30 Gorffennaf 1963) yn actores, comediwraig, ysgrifenwraig a chynhyrchwraig Americanaidd. Daeth i amlygrwydd byd-eang am chwarae'r rhan Phoebe Buffay yn y comedi sefyllfa teledu Friends, a derbyniodd sawl gwobr am ei pherfformiad, gan gynnwys Gwobr Emmy a dwy Wobr Screen Actors Guild.
Lisa Kudrow | |
---|---|
Ganwyd | Lisa Valerie Kudrow 30 Gorffennaf 1963 Encino |
Man preswyl | Encino |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor, actor llais, actor cymeriad, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, sgriptiwr |
Adnabyddus am | Friends |
Taldra | 173 centimetr |
Pwysau | 137 pwys |
Gwobr/au | Dorian Awards, Webby Award, Webby Award, Gracie Awards, Satellite Award for Best Actor – Television Series Musical or Comedy, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Cylch Beirniaid Ffilm Efrog Newydd, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by an Ensemble in a Comedy Series, Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Comedy Series, Gwobr Teen Choice am 'Choice Hissy Fit', Blockbuster Entertainment Awards, American Comedy Awards, New York Film Critics Circle Award for Best Supporting Actress, Gobr Cylchgrawn y Bobl, TV Land Award |
llofnod | |
Aeth yn ei blaen i gynyrchu, ysgrifennu a serennu yng ngyfres The Comeback ar HBO yn 2005. Adfywiwyd y rhaglen naw mlynedd yn ddiweddarach a dechreuodd yr ail gyfres ddarlledu yn Nhachwedd 2014. Mae hi hefyd yn serennu yn Web Therapy sydd yn ei phedwaredd gyfres ar Showtime, ac enwebwyd Kudrow am Wobr Emmy ar gyfer ei rhan yn y gyfres yn 2012. Mae'n un o'r uwch gynhyrchwyr ar raglen realiti TLC, Who Do You Think You Are, ac enwebwyd hi am Wobr Emmy dros Rhaglen-Realiti Rhagorol ar gyfer y gyfres yn 2012.
Mae Kudrow hefyd wedi ymddangos mewn sawl ffilm, gan gynnwys Romy and Michele's High School Reunion (1997), The Opposite of Sex (1998), Analyze This (1999) a'i dilyniant Analyze That (2002), Dr. Dolittle 2 (2001), Wonderland (2003), Happy Endings (2005), P.S. I Love You (2007), Bandslam (2008), Hotel for Dogs (2009), Easy A (2010) a Bad Neighbours (2014).
Trwy gydol ei gyrfa mae wedi derbyn deg enwebiad Gwobr Emmy, un-deg-dau enwebiad Gwobr Screen Actors Guild ac enwebiad Gwobr Golden Globe.