Mae Listeria yn genwsfacteria a oedd, tan 1992, yn cynnwys deg rhywogaeth hysbys,[1][2] a phob un o'r rheiny yn cynnwys dau isrywogaeth. Ers 2014, nodwyd pum rhywogaeth arall.[3] Cafodd ei enwi ar ôl yr arloeswr ym maes llawfeddygaeth di-haint Prydeinig Joseph Lister, cafodd y genws ei enw cyfredol yn 1940. Y prif bathogen pobl yn y genws Listeria yw L. monocytogenes. Fel arfer, dyma'r asiant sy'n achosi'r afiechyd bacteriol gweddol brin listeriosis, haint ddifrifol a achosir drwy fwyta bwyd sydd wedi'i halogi â'r bacteria. Mae'r afiechyd yn effeithio menywod beichiog, babnod newydd anedig, oedolion sydd ag imiwnedd gwan, a'r henoed.

Listeria
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonListeriaceae Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Listeriosis yn glefyd difrifol i bobl; mae gan ffurf amlycaf yr afiechyd gyfradd marwolaeth yn ôl achosion o oddeutu 20%. Sepsis a meningitis yw'r ddau brif achos. Caiff meningitis ei gymhlethu'n aml gan encephalitis, pan gaiff ei adnabod fel meningoencephalitis. Gall y cyfnod datblygu amrywio o rhwng tri a 70 diwrnod.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, D. 1992. Current classification of the genus Listeria. In: Listeria 1992. Abstracts of ISOPOL XI, Copenhagen, Denmark). p. 7-8. ocourt, J., P. Boerlin, F.Grimont, C. Jacquet, and J-C. Piffaretti. 1992. Assignment of Listeria grayi and Listeria murrayi to a single species, Listeria grayi, with a revised description of Listeria grayi. Int. J. Syst. Bacteriol. 42:171-174.
  2. Boerlin et al. 1992. L. ivanovii subsp. londoniensis subsp. novi. Int. J. Syst. Bacteriol. 42:69-73. Jones, D., and H.P.R. Seeliger. 1986. International committee on systematic bacteriology. Subcommittee the taxonomy of Listeria. Int. J. Syst. Bacteriol. 36:117-118.
  3. "Five new Listeria species found; may improve tests | Cornell Chronicle". www.news.cornell.edu. Cyrchwyd 15 May 2016.
  4. "foodsafety.gov - Listeria".[dolen marw]