Agor y brif ddewislen
Little Haven

Pentref bychan yn Sir Benfro yw Little Haven (Saesneg, sef "Harbwr Bach"; dim enw Cymraeg). Mae'n gorwedd ar arfordir Sir Benfro tua 7 milltir i'r gorllewin o Hwlffordd a thua'r un pellter i'r gogledd-orllewin o Aberdaugleddau.

Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac yn boblogaidd gan ymwelwyr sy'n mwynhau'r traeth llydan yno, ar lan Bae Sain Ffraid.

Oriel luniauGolygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato