Liz Heaston
Athletwraig o'r Unol Daleithiau yw Elizabeth Heaston Thompson (ganwyd 1977). Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i sgorio mewn gêm bêl-droed Americanaidd yn y coleg. Roedd hi'n gicwraig i dîm Willamette Bearcats o Brifysgol Willamette, a chyflawnodd hi'r gamp hon ar 18 Hydref 1997. Aeth y tîm ymlaen i gystadlu yn y Gymdeithas Genedlaethol Athletau Rhyng-golegol (NAIA) ar gyfer colegau bychain.[1] Roedd hi hefyd yn amddiffynwraig i dîm pel droed menywod Williamette. [2] Cafodd ei champau sylw gan y cyfryngau a'r gymuned chwaraeon.
Liz Heaston | |
---|---|
Ganwyd | 1977 Richland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pêl-droediwr, chwaraewr pêl-droed Americanaidd |
Chwaraeon |
Bywyd
golyguCafodd Heaston ei magu yn Richland, Washington. Cofrestrodd ym Mhrifysgol Willamette ar ôl iddi raddio, lle daeth yn seren y byd pêl-droed ac ennillodd glod anrhydeddus All-Americanaidd ym 1996 a 1997.[3] Yn 1997 ymunodd â'r tîm pêl-droed fel ciciwraig wrth gefn. Hi oedd y fenyw gyntaf i chwarae a sgorio pwyntiau mewn gêm bêl-droed yn y coleg, yn ystod y gêm rhwng Willamette a Choleg Linfield ar 18 Hydref, 1997. Bu'n rhaid i'r chwaraewraig pêl-droed, sy'n mesur 5 troedfedd-5 modfedd ac yn pwyso 120 pwys, ddod ar y cae yn lle Willamette, a chiciodd ddau bwynt ychwanegol wrth i'w thîm ennill 27-0.[3] O ganlyniad i'w llwyddiant, cafodd hi gyfweliad ar y rhaglenni The Today Show a CBS This Morning.[4]
Chwaraeodd Heaston ddwy gêm yn ystod ei gyrfa. Cyflawnodd ddau allan o bedwar cynnig am bwyntiau ychwanegol.[5][6] Mae ei chrys yn cael ei arddangos yn Oriel Anfarwolion Pêl-droed y Coleg.[7]
Y flwyddyn ganlynol chwaraeodd Heaston bêl-droed i dîm Willamette yn unig, a graddiodd gyda gradd mewn bioleg yn 1999.[3] Aeth i ysgol raddedig ym Mhrifysgol Pacific, lle enillodd ddoethuriaeth mewn optometreg ac yno y bu iddi gyfarfod ei gŵr, Trent Thompson.[3] Mae ganddi fab, ac un ferch o'r enw Isabella. Mae hi'n byw yn Richland, Washington, ei thref enedigol, ac yno hefyd y mae swyddfa optometreg ei thad ble mae hi a'i gŵr yn gweithio.[8]
Gweler hefyd
golygu- Tonya Butler, y fenyw gyntaf i sgorio gôl maes mewn gêm NCAA
- Sarah Fuller, y fenyw gyntaf i sgorio mewn gêm bêl-droed cynadleddau Power Five
- Katie Hnida, y fenyw gyntaf i sgorio mewn gêm Adran IA
- Ashley Martin, y fenyw gyntaf i sgorio mewn gêm NCAA, a'r gyntaf i sgorio mewn gêm Adran I
- Haley Van Voorhis, y fenyw gyntaf i chwarae safle di-gic mewn gêm NCAA ar unrhyw lefel
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Woolum, Janet (1998). Outstanding women athletes: who they are and how they influenced sports in America. Oryx Press. t. 33. ISBN 1-57356-120-7.
+liz heaston +willamette.
- ↑ "Elizabeth Heaston '99". Willamette Bearcats. Cyrchwyd 26 Chwefror 2023.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Timbrell, Jamie (August 20, 2007). "Alumni Spotlight: Liz Heaston'99 Gets Kicks in more than One Sport". Willamette University. Cyrchwyd 2008-12-12.
- ↑ Rios, Camila (October 12, 2018). "Local woman makes college football history in 1997". NZBC News Right Now-KNDU 25. Cyrchwyd October 13, 2018.
- ↑ "Interview with Bob Ley". ESPN.com.
- ↑ "Woman Kicks Extra Points". The New York Times. October 20, 1997. Cyrchwyd May 11, 2010.
- ↑ "College Football Week 7: In the Spotlight". Los Angeles Times. October 18, 1998. Cyrchwyd March 9, 2012.
- ↑ Timbrell, Jamie (August 20, 2007). "Alumni Spotlight: Liz Heaston'99 Gets Kicks in more than One Sport". Willamette University. Cyrchwyd 2008-12-12.