Arlunydd o ardal Aberystwyth yw Lizzie Spikes. Mae'n paentio ar hen bren, broc môr yn bennaf, gan greu tirluniau, môrluniau, a delweddau sydd wedi eu hysbrydoli gan ei hamgylchedd yng Ngheredigion. Mae Lizzie hefyd yn enwog am greu darluniau i ddod a'n rhigymau Cymraeg yn fyw.

Lizzie Spikes
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Mae ychydig o debygrwydd rhwng arddull darlunio tonnau Spikes a gwaith Valériane Leblond.

Mae Spikes yn rhedeg cwmni o'r enw "Driftwood Designs" sy'n gwerthu ei gwaith celf wreiddiol, posteri, cardiau post a mwy. Mae ganddi siop yn Aberystwyth.

Dolenni allanol

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.