Yn hanesyddol ysgrifennwyd llên Gwlad Pwyl mewn sawl iaith, gan gynnwys Lladin, Pwyleg, Lithwaneg, Rwseg, Almaeneg, Iddew-Almaeneg, Wcreineg, Belarwseg, ac Esperanto.

Datblygodd llenyddiaeth Ladin Pwyl yn sgil Cristioneiddio'r wlad yn y 10fed ganrif. Cafodd offeiriaid Catholig o Orllewin Ewrop eu gwahodd i Wlad Pwyl gan y Tywysog Mieszko I i adeiladu eglwysi a mynachlogydd. Y rheiny oedd canolfannau crefyddol a diwylliannol y wlad, a'r Lladin felly oedd yr iaith lenyddol. Bu llenyddiaeth Bwyleg yn araf ei datblygu, yn rhannol oherwydd pellter Gwlad Pwyl oddi ar ddinasoedd gwaraidd Gorllewin Ewrop, lle yr oedd ieithoedd y werin yn fwyfwy gyfrwng llenyddol. Goresgynnwyd y Bwyldir yn aml trwy gydol ei hanes, a fu hefyd yn atal traddodiad llenyddol rhag aeddfedu yn yr iaith genedlaethol.

Mickiewicz
Adam Mickiewicz
Słowacki
Juliusz Słowacki
Krasiński
Zygmunt Krasiński
Y Tri Bardd (Trzej Wieszcze)

Yn oes Rhamantiaeth yn hanner cyntaf y 19eg ganrif blodeuai'r tri bardd (Pwyleg: Trzej Wieszcze) gwychaf yn hanes Gwlad Pwyl: Adam Mickiewicz (1798–1855), Juliusz Słowacki (1809–49), a Zygmunt Krasiński (1812–59). Cyfansoddodd Mickiewicz Pan Tadeusz (1834), arwrgerdd genedlaethol Gwlad Pwyl. Yn y cyfnod 1890–1920 blodeuai sawl rhyddieithiwr a dramodwyr modernaidd o'r mudiad Pwyl Ifanc (Młoda Polska), gan gynnwys Gabriela Zapolska (1857–1921), Stefan Żeromski (1864–1924), a Stanisław Wyspiański (1869–1907). Mae'r nofelydd Pwylaidd Joseph Conrad (1857–1924) yn enwog am ei straeon yn yr iaith Saesneg sydd yn cyfuno elfennau o realaeth y 19g â moderniaeth yr 20g.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'r awdur Iddewig Bruno Schulz (1892–1942) yn ysgrifennu straeon byrion yn yr iaith Bwyleg. Yn y cyfnod wedi'r rhyfel, blodeuai'r beirdd Zbigniew Herbert (1924–1998) a Tadeusz Różewicz (1921–2014), y dramodwyr Witold Gombrowicz (1904–69) a Sławomir Mrożek (1930–2013), yr awdur ffuglen wyddonol Stanisław Lem (1921–2006), a'r newyddiadurwr ac ysgrifwr Ryszard Kapuściński (1932–2007). Yn ystod y cyfnod comiwnyddol, bu ambell llenor alltud yn gweithio y tu allan i Wlad Pwyl, gan gynnwys y nofelydd Jerzy Kosiński (1933–91) a'r bardd Adam Zagajewski (g. 1945).

Enillwyd Gwobr Lenyddol Nobel gan chwe llenor o Wlad Pwyl: y nofelydd a newyddiadurwr Henryk Sienkiewicz (1846–1916) ym 1905; y nofelydd Władysław Reymont (1867–1925) ym 1924; yr awdur Iddew-Almaeneg Isaac Bashevis Singer (1903–91) ym 1978; y bardd ac ysgrifwr Czesław Miłosz (1911–2004) ym 1980; y bardd Wisława Szymborska (1923–2012) ym 1996; a'r bardd a nofelydd Olga Tokarczuk (g. 1962) yn 2018.