Llaeth enwyn
Yn draddodiadol, llaeth enwyn yw'r hyn sy'n weddill ar ôl corddi llaeth gwartheg neu hufen i gynhyrchu ymenyn. Mae gan yr hylif sy'n weddill wedi'r broses yma flas sur nodweddiadol, oherwydd presenoldeb asid lactig. Fe'i defnyddid mewn nifer o fwydydd traddodiadol Cymreig megis llymru.
![]() | |
Math | dairy drink, Q46025316, cynnyrch llaeth ![]() |
---|---|
![]() |

Gellir hefyd gynhyrchu llaeth enwyn trwy ychwanegu'r bacteriwm Streptococcus lactis ar laeth. Dyma'r math mwyaf cyffredin o laeth enwyn bellach.
Ym Môn ac Arfon ystyr y gair llaeth yw llaeth enwyn, llefrith yw llaeth cyn ei gorddi.