Llawysgrifen Spenceraidd
Arddull o lawysgrifen a ddefnyddiwyd yn yr Unol Daleithiau o tua 1850 i 1925 yw lawysgrifen Spenceraidd. Dyfeisiwyd y dull hwn o ysgrifen redeg ym 1840 gan Platt Rogers Spencer (1800–1864). Daeth ei lawysgrifen yr arddull ysgrifennu safonol ar gyfer gohebiaeth busnes yn UDA cyn i'r teipiadur gael ei ddefnyddio'n gyffredinol.
Ysgrifennir logos Coca-Cola a'r Ford Motor Company gan ddefnyddio llawysgrifen Spenceraidd.
-
Logo Coca-Cola
-
Logo Ford