Llenyddiaeth Ffriseg
Llenyddiaeth a ysgrifennir yn iaith frodorol y Ffrisiaid yw llenyddiaeth Ffriseg, yn bennaf Ffriseg y Gorllewin.
Dechreuwyd y traddodiad llenyddol Ffriseg gan Gysbert Japicx (1603–66) a ysgrifennodd gasgliad o gerddi Friesche Rymlerye (1668) i gadw'r iaith safonol yn fyw. Er gwaethaf ei ymdrechion, anaml y defnyddid y Ffriseg yn iaith ysgrifenedig hyd yr 19g. Adfywiodd y llên genedlaethol yn yr oes Ramantaidd. Sefydlodd y brodyr Halbertsma (Eeltsje, Joast, a Tsjalling) fudiad Llenyddiaeth Ffriseg Newydd ac ysgrifenasant gasgliad o ryddiaith a barddoniaeth o'r enw Rimen en Teltsjes (1871). Dylanwadau'r cyfnod oedd llên gwerin a hen farddoniaeth Ellmynaidd. Lansiodd Douwe Kalma y Mudiad Ffrisiaidd Ifanc ym 1915, gan herio llenorion ifanc i roi'r gorau i daleithioldeb a didactigiaeth y gorffennol. Ffynodd y ddrama, cyfieithiadau, a beirniadaeth lenyddol ddechrau'r 20g. Wedi'r Ail Ryfel Byd, chwalwyd traddodiadau ymhellach yn enwedig drwy waith Anne Wadman fel beirniad, ysgrifwr a nofelydd. Mae'r mwyafrif o farddoniaeth a ffuglen Ffriseg fodern yn adlewyrchu themâu a thechnegau llenyddiaeth yn Ewrop gyfan.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Frisian literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mai 2016.