Llenyddiaeth natur

Gweithiau llenyddol sydd yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd yw llenyddiaeth natur sydd yn cynnwys rhyddiaith ffeithiol am dirwedd a bywyd gwyllt, myfyrion ac atgofion am athroniaeth a phrofiad y byd naturiol, a barddoniaeth a ffuglen gyda themâu tebyg.

Un ffurf gyffredin ar lenyddiaeth natur yw'r dyddiadur natur, er enghraifft Bwrw Blwyddyn gan Bethan Wyn Jones neu Yma Mae 'Nghalon gan Gruff Ellis.

Mae clasuron llenyddiaeth natur Saesneg yn cynnwys The Natural History and Antiquities of Selborne (1789) gan Gilbert White[1] a Walden (1854) gan Henry David Thoreau.

Awduron natur golygu

Mae awduron natur cyfoes yn yr iaith Saesneg yng Ngwledydd Prydain yn cynnwys John Lewis-Stempel, Richard Mabey, Horatio Clare, a Robert Macfarlane. Roedd Gavin Maxwell yn adnabyddus am ei llyfr Ring of Bright Water (1960).[2] Roedd Maxwell yn arbenigwr ar ddyfrgwn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gosse, Edmund (1903). ""Gilbert White"". English Literature: From Milton to Johnson (yn Saesneg). London: William Heinemann. tt. 375–378.
  2. Lister-Kaye, John (4 Gorffennaf 2014). "The Genius of Gavin Maxwell". The Telegraph (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.

Darllen pellach golygu

  • Thomas Lyon, This Incomparable Land: A Guide to American Nature Writing (Minneapolis: Milkweed, 2001).