Llewellyn Heycock
arweinydd adnabyddus mewn llywodraeth leol ym Morgannwg
Arweinydd llywodraeth leol ac aelod amlwg o'r Blaid Lafur oedd Llewellyn Heycock, yn ddiweddarach yr Arglwydd Heycock o Dai-bach (12 Awst 1905 – 13 Mawrth 1990).
Llewellyn Heycock | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1905 Port Talbot |
Bu farw | 13 Mawrth 1990 Castell-nedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, gyrrwr trên, dyn tân |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwobr/au | CBE |
Ganed ef yn nhref Port Talbot, a magwyd ef yn Nhai-bach gerllaw. Bu'n gweithio fel gyrrwr trenau am gyfnod. Daeth yn aelod o Gyngor Sir Forgannwg yn 1937, a bu'n gadeirydd y pwyllgor addysg o 1944 hyd 1974 ac yn gadeirydd y cyngor yn 1962-3. Daeth yn gadeirydd cyntaf Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg wedi ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Roedd ei gefnogaeth ef yn allweddol i sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal yma.