Llif gadwyn
Llif fecanyddol gludadwy yw llif gadwyn a ddefnyddir i dorri neu docio coed a boncyffion. Ceir hefyd llifiau cadwyn arbennig sy'n gallu torri defnyddiau caletach. Pwerir gan amlaf gan fotor dwystroc, neu fel arall gan drydan, pŵer hydrolig, neu aer cywasgedig. Cadwyn o ddannedd miniog sydd yn torri'r defnydd. Mae rhai cerfwyr pren yn defnyddio llifiau cadwyn i gerfio cerfluniau o goed neu ddarnau mawr o bren.
Aelod o Sgwadron Peirianwyr Sifil y 374ain Asgell Awyrgludiad, Awyrlu yr Unol Daleithiau, yng Nghanolfan Awyr Yokota, Japan, yn torri canghennau coeden a gwympodd yn Nheiffŵn Roke ym Medi 2011.
Diffoddwyr tân yn defnyddio llifiau cadwyn i glirio canghennau a llwyni o geuffosydd ar Diriogaeth Indiaidd La Jolla, i geisio atal llifogydd yn sgil tanau naturiol gwyllt yng Nghaliffornia yn nhymor yr hydref 2007.
Llif gadwyn sy'n gallu torri concrit, bric, a charreg naturiol.
Dyn yn cerfio arth o bren gyda llif gadwyn yn Brienz, y Swistir.