Llinyn coch (Cabala)
Mae gwisgo llinyn dugoch neu ysgarlad tenau (Hebraeg: חוט השני, khutt hashani ) fel math o talisman yn arfer gwerin Iddewig. Mae'n ffordd o atal anffawd a achosir gan y "llygad drwg" (Hebraeg: עין הרע). Credir bod y traddodiad yn gysylltiedig â Cabala a ffurfiau crefyddol eraill ar Iddewiaeth.
Enghraifft o'r canlynol | Segula |
---|---|
Math | bracelet |
Fel arfer, mae'r llinyn coch ei hun wedi'i wneud o edau wlân ysgarlad tenau. Mae'n cael ei wisgo fel breichled neu fand ar arddwrn y gwisgwr. Gwisgwyd y llinyn coch mewn llawer o ddiwylliannau, ac nid yw wedi'i seilio ar ddiwylliant Iddewig yn unig. Mae Hindŵaeth a diwylliant Tsieina hefyd yn gwisgo'r llinyn coch neu'r freichled hon er mwyn denu lwc dda a chariad ac i atal drygioni.
Hanes Beiblaidd
golyguSonnir am edau ysgarlad, sydd wedi'i chlymu am yr arddwrn, yn Genesis 38. Daw Tamar yn feichiog gan ei thad-yng-nghyfraith, Jwda, ac yn rhoi genedigaeth i efeilliaid.
Genesis, pennod 38:
27 – Pan ddaeth ei hamser hi, roedd ganddi efeilliaid.
28 – Wrth iddi eni'r plant, dyma un plentyn yn gwthio ei law allan, a dyma'r fydwraig yn rhwymo edau goch am ei arddwrn, a dweud, “Hwn ddaeth allan gynta.”
29 – Ond wedyn tynnodd ei law yn ôl, a daeth ei frawd allan o'i flaen. “Sut wnest ti lwyddo i wthio trwodd?” meddai'r fydwraig. Felly dyma'r plentyn hwnnw yn cael ei alw yn Perets.
30 – Wedyn dyma'i frawd yn cael ei eni, gyda'r edau goch am ei arddwrn. A dyma fe'n cael ei alw yn Serach.[1]
Mor gynnar â Rabbi Shmuel ben Hafni Gaon, nododd sylwebwyr Iddewig y gallai gosod llinyn coch ar eich arddwrn fod yn argoel dda.[2] Mae rhai ffynonellau yn awgrymu y gall hyd yn oed gael ei osod o amgylch y bys.[2] Mae rhai sylwebwyr Iddewig cynnar (fel Aggadas Bereishis) yn ysgrifennu bod côt Joseff (a roddwyd iddo gan Jacob) mewn gwirionedd yr un fath â chôt y Llwythau eraill, dim ond bod Jacob wedi gosod llinyn coch ar y cyffiau.[2]
Trwy'r oesoedd
golyguNid oes unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig yn y Torah, Halacha, na'r Cabala am ei gwneud yn ofynnol i glymu llinyn coch o amgylch yr arddwrn. Er bod ffynonellau yn cyfeirio at linynnau coch fel argoel dda, nid yw'n amlwg a oedd llawer o bobl yn eu gwisgo. Yr unig achos y gwelwn anogaeth gyhoeddus i wisgo edafedd coch yw yn y 1490au: pan nad oedd Iddewon yn cael gwisgo Tefilin, argymhellodd Rabi Abraham Saba i Iddewon wisgo llinyn coch ar eu dwylo (i gofio gorchymyn Tefilin).[2]
Gweler hefyd
golygu- Swyngyfaredd apotropaidd
- Hamsa
- Cabala ymarferol
- Kautuka
- Raksha Bandhan
- Martenitsa
Cyfeiriadau
golyguFfynonellau llyfrau
golygu- Lynch, Annette; Strauss, Mitchell (2007). Changing Fashion: A Critical Introduction to Trend Analysis and Cultural Meaning. Berg Publishers. ISBN 978-1845203900.
Dolenni allanol
golyguNodiadau eglurhaol
golygu- Beliefnet: Why the Red String?
- Teman, Elly. 2008. "The Red String: A Cultural History of a Jewish Folk Symbol," in: Bronner, Simon J. (ed.), Jewishness: Expression, Identity, Representation, Inaugural volume in book series on Jewish Cultural Studies, Oxford: Littman Library of Jewish Civilization.
- Ask the Rabbi: Red Strings