Lloegr Newydd
- Am y rhanbarth yn Awstralia, gweler: New England (Awstralia).
Ardal yng ngogledd-ddwyrain eithaf Unol Daleithiau America ar lan Cefnfor Iwerydd yw Lloegr Newydd (Saesneg: New England). Mae'n cynnwys y taleithiau presennol Massachusetts, Maine, Vermont, Connecticut, New Hampshire a Rhode Island. Yr Ewropeiad cyntaf i'w chwilio oedd Capten John Smith, a roddodd yr enw arni. Y Piwritaniaid oedd yr Ewropeiaid cyntaf i ymsefydlu yno.
Math | ardal ddiwylliannol, U.S. region |
---|---|
Enwyd ar ôl | Lloegr |
Poblogaeth | 14,845,063 |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain |
Daearyddiaeth | |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 186,447 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Swnt Long Island |
Yn ffinio gyda | Canolbarth yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 44.2056°N 70.3064°W |