Term cyfreithiol yw llofruddiaeth sy'n cyfeirio at y drosedd o ladd bod dynol â bwriad maleisus. Yn y mwyafrif o wledydd cyfraith gyffredin, diffinnir llofruddioiaeth fel y lladd anghyfreithlon bwriadol o berson arall (neu ôl-feddyliad maleisus), ac yn gyffredinol gwahaniaetha'r cyflwr meddyliol hwn rhwng mathau eraill o ladd anghyfreithlon (megis dynladdiad).

Cyfraddau llofruddiaeth yng ngwledydd y byd

Am fod colli bod dynol yn achosi galar mawr ar unigolion a oedd yn agos i'r dioddefwr, yn ogystal â'r ffaith fod y llofruddiaeth ei hun yn dwyn bywyd rhywun oddi wrthynt yn barhaol, ystyria'r mwyafrif o gymdeithasau cyfoes ac yn y gorffennol llofruddiaeth fel trosedd sy'n haeddu'r gosb lymaf. Gan amlaf, dedfrydir person sy'n euog o lofruddiaeth i oes yn y carchar neu'r gosb eithaf hyd yn oed am y fath weithred. Gelwir person sy'n llofruddio yn "llofrudd", yn "llofruddiwr" neu'n "llofruddwraig".

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am drosedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am llofruddiaeth
yn Wiciadur.