Llofruddiaeth Lola Daviet

Ar 14 Hydref 2022, canfuwyd corff merch 12 oed o'r enw Lola Daviet mewn cist blastig ar olwynion, mewn iard y tu allan i'w hadeilad fflatiau yn y 19eg arrondissement ym Mharis, Ffrainc. Yn ôl yr awtopsi, cafodd ei thagu i farwolaeth.[1] Cafodd menyw 24 oed ei harestio a'i chadw yn y ddalfa ar sail amheuaeth ei bod yn gyfrifol o lofruddiaeth, treisio, ac arteithio'r ferch. Mae'r fenyw yn fewnfudwraig o Algeria, a chanddi drwydded breswyl wedi dod i ben, ac felly dan orchymyn i adael Ffrainc.[2]

Llofruddiaeth Lola Daviet
Enghraifft o'r canlynolachos troseddol Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Hydref 2022 Edit this on Wikidata

Ymatebodd nifer o Ffrancod, yn enwedig o'r adain dde, drwy gyhuddo'r llywodraeth o ddiffyg gorfodi rheolau mewnfudo.[3] Cynhaliwyd rali er cof am Lola ym Mharis ar 20 Hydref, er i'w theulu beidio â rhoi sêl bendith arni. Ar 21 Hydref, datganodd yr Arlywydd Emmanuel Macron ei fod yn weithred o "ddrwg enbyd", a bod angen "parch a serch y genedl" ar deulu'r ferch.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Paris shocked by murder of Lola, 12, found in box", BBC (18 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2022.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Alexandra Fouché, "Lola: Girl's murder an act of 'extreme evil', President Macron says", BBC (21 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2022.
  3. (Saesneg) Paul Kirby, "Paris murder: Killing of Lola, 12, sparks immigration row in France", BBC (18 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudale we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Hydref 2022.