Llwy fawr yw'r llwy fwrdd sy'n cael ei defnyddio i weini neu i fwyta. Caiff ei defnyddio hefyd i fesur wrth goginio. Yn y modd hwn, mae'i ffurf gryno tbsp yn fwy cyffredin.

Gall y llwy fwrdd hon ddal tua 15 ml.

Hanes golygu

Cyn tua 1700, roedd yn arferol i bobl Ewropeaidd ddod â llwyau eu hunain at y bwrdd. Roedd llwyau yn cael eu cario fel eiddo personol fel mae pobl heddiw yn cario waledi, goriadau ac ati. O tua 1700 daeth y llwy fwrdd, cyllell fwrdd, a fforc fwrdd yn boblogaidd. O gwmpas yr un adeg gwelwyd y defnydd o lwy de a llwy bwdin a neilltuwyd y llwy fwrdd ar gyfer bwyta cawl.

Gwelwyd cynnydd yn y 18g yn nifer o wahanol fathau o lwyau, gan gynnwys llwy fwstard, llwy halen, llwy goffi, a llwy gawl. Ar ddiwedd y 19g yng Ngwledydd Prydain, disodlodd y llwy bwdin a'r llwy gawl brif ystyr y llwy fwrdd, sef bwyta allan o bowlen. Ar y pwynt hwn, cymerodd y llwy fwrdd ei hail ystyr o fod yn lwy llawer iawn mwy, ar gyfer gweini.[1] 

Diffiniadau traddodiadol golygu

Yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau, mae'r llwy fwrdd yn cael ei diffinio fel 15 ml.[2][3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Simon Moore (2005). Spoons 1650-2000. Osprey Publishing. t. 44. ISBN 978-0-7478-0640-0. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-29. Cyrchwyd 2017-07-20.
  2. 21 CFR (Code of Federal Regulations) 101.9(b)(5)(viii)
  3. Cardarelli, François Cradarelli (2003). Encyclopaedia of Scientific Units, Weights and Measures. London: Springer. tt. 44. ISBN 978-1-4471-1122-1.