Llwytmor
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yw Llwytmor; saif yng Ngwynedd i'r gogledd o Foel Fras a phrif grib y Carneddau ac i'r de o bentref Abergwyngregyn. I'r dwyrain o'r mynydd mae Llyn Anafon ac Afon Anafon, tra i'r gorllewin mae'r Afon Goch yn llifo i lawr at y Rhaeadr Mawr.
![]() | |
Math | mynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 849 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2046°N 3.965°W ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 73 metr ![]() |
Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn ![]() |
![]() | |
Gellir ei ddringo o Aber trwy ddilyn y llwybr trwy Goedydd Aber a heibio pen uchaf y rhaeadr cyn troi i'r chwith i ddringo llethrau Llwytmor.