Llyfr sanctaidd mudiad yr Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf sy'n cynnwys dysgeidiaethau proffwydai hynafol a drigai ar gyfandir America rhwng tua 2200CC i 421 AD ydy Llyfr Mormon. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ym Mawrth 1830 gan Joseph Smith fel "Y Llyfr Mormon: Cofnod a Ysgrifennwyd trwy Law Mormon ar Blatiau a Gymrwyd o Blatiau Nephi."

Llyfr Mormon yn Gymraeg
Dalen o'r llawysgrif wreiddiol: Nephi 4:38- 5:14

Yn ôl cofnod Smith a naratif y llyfr, ysgrifennwyd y Llyfr Mormon yn wreiddiol mewn llythrennau anhysbys a gyfeiriwyd atynt fel "Eiffteg diwygiedig" ar blatiau euraidd. Dywedodd Smith fod y proffwyd olaf a gyfrannodd i'r llyfr, gwr o'r enw Moroni, wedi ei gladdu ar fryn lle mae Dinas Efrog Newydd y dyddiau hyn. Dywedodd ei fod wedi dychwelyd i'r ddaear fel angel yn 1827, gan ddatgelu lleoliad y llyfr i Smith, a'i gyfarwyddo i'w gyfieithu i'r Saesneg er mwyn medru ei ddefnyddio yng ngwir eglwys Crist yn y dyddiau diwethaf. Honna beirniaid ei fod wedi cael ei ffugio gan Smith, a oedd wedi cymryd syniadau a deunyddiau o weithiau'r 19g yn hytrach na chyfieithu o gofnod hynafol.

Mae gan Lyfr Mormon nifer o drafodaethau athrawiaethol a gwreiddiol ar bynciau megis cwymp Adda ac Efa, natur wneud iawn am bechod, eschatoleg, iechydwriaeth o farwolaeth gorfforol ac ysbrydol, a threfniant yr eglwys dyddiau diwethaf. Digwyddiad canolog i'r llyfr yw ymddangosiad Iesu Grist yn yr Americas ychydig wedi ei atgyfodiad.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.