Eitemau plastig bychain sy'n cael eu defnyddio i ddynwared llygaid ar waith crefft yw llygaid siglog. Mae llygaid siglog fel arfer wedi'u gwneud o blastig neu gerdyn gwyn sydd wedi'i orchuddio â chragen glir o blastig caled ag ynddi ddisg blastig, ddu. Mae'r cyfuniad o gylch du ar gylch gwyn mwy yn debyg i sglera a channwyll llygad. Gall y ddisg ddu fewnol symud yn rhydd o fewn i'r gragen glir, ac mae hynny'n gwneud i'r llygad edrych fel petai'n symud pan mae'n cael ei gogwyddo neu ei hysgwyd.

Dau lygad siglog
Llygad siglog ar forthwyl

Daw'r cregyn plastig mewn sawl maint, o 3/16 modfedd (4.8mm) i dros 24 modfedd (610mm) mewn diamedr a cheir sawl lliw gan gynnwys: pinc, glas, melyn, coch a gwyrdd. Mae'r llygaid siglog yn cael eu defnyddio mewn amryw o wahanol fathau o brosiectau celf a chrefft ac yn gallu cael eu glynu i lawer o wahanol wrthrychau er mwyn gwneud iddynt edrych yn ddoniol. Mae hynny'n personoli'r gwrthrych, ac yn aml yn creu digrifwch.

Defnyddiwyd y term Saesneg am lygaid siglog, sef 'googly eyes', i gyfeirio at fath o ddoli ar ddechrau'r 20g. Mae ymchwilwyr wedi awgrymu bod y term yn tarddu o'r Almaeneg "Guck Augen" sy'n golygu llygaid yn edrych i un ochr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Herlocher, Dawn (2008). Collectible Dolls (Warman's Companion). Krause Publ. tt. 121. ISBN 089689701X.