Llynges yr Unol Daleithiau
Y gangen o Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau sy'n gyfrifol am amddiffyn y wlad ar y môr, cefnogi'r lluoedd Americanaidd eraill ar y môr, a diogelu'r moroedd yn ôl diddordebau'r Unol Daleithiau yw Llynges yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Navy).[1] Hon yw'r llynges fwyaf yn y byd yn nhermau tunelledd, a'r ail fwyaf—ar ôl Llynges Byddin Rhyddhad y Bobl (Gweriniaeth Pobl Tsieina)—yn nhermau nifer y llongau wyneb môr.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) The United States Navy (USN). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ionawr 2014.