Llys Siryf
Mae'r Llys Siryf (Cùirt un t-Siorraim yn Gaeleg yr Alban; Sherriff Court yn Saesneg) yn darparu'r prif wasanaeth llysoedd lleol yn yr Alban, gyda phob llys yn gwasanaethu ardal llys siryf o fewn un o'r chwech Siryfyddiaeth yn yr Alban. Mae Llysoedd y Siryf yn ymdrin â myrdd o weithdrefnau cyfreithiol sy'n cynnwys:
- achosion troseddol difirifol (solemn) a achosion troseddol uniongyrchol (summary)
- ystadau mawr a bach ar farwolaeth
- talu dyrwyon
- achosion sifil cyffredin ac fel Llys Hawliadau Bychain
- achosion Mabwysiadu
- Methdalu
Mae achosion troseddol llai yn tueddu mynd i'r Llys Ustus Heddwch ond o dan Cyfraith yr Alban mae'r penderfyniad yn nwylo'r Procuradur Ffisgal (Procurator Fiscal) pa lys i ddefnyddio.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Llysoedd yr Alban (Gwefan swyddogol)