Llythyrau Paul
Cyfres o lythyrau gan yr Apostol Paul yn y Testament Newydd yw Llythyrau Paul neu Epistolau Paul. Cyfeirir atynt hefyd fel y Llythyrau Paulaidd gan fod ysgolheigion Beiblaidd diweddar yn amau awduraeth rhai ohonynt.
Ceir 13 llythyr dan enw Paul yn y Testament Newydd. Gwrthodir Paul fel awdur y Llythyr at yr Hebreaid gan fwyafrif helaeth ysgolheigion erbyn hyn, er ar un adeg y gred oedd mai ef oedd yr awdur.
- Llythyr Paul at y Rhufeiniaid
- Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid
- Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid
- Llythyr Paul at y Galatiaid
- Llythyr Paul at yr Effesiaid
- Llythyr Paul at y Philipiaid
- Llythyr Paul at y Colosiaid
- Llythyr Cyntaf Paul at y Thesaloniaid
- Ail Lythyr Paul at y Thesaloniaid
- Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus
- Ail Lythyr Paul at Timotheus
- Llythyr Paul at Titus
- Llythyr Paul at Philemon
Yn ôl traddodiad, mae rhai o'r rhain wedi'u grwpio gyda'i gilydd:
Y Llythyrau Carchar
golyguMae’r rhain yn lythyrau a ysgrifennwyd, yn ôl traddodiad, gan Paul pan oedd yn garcharor yn Rhufain (tua OC 62).
Y Llythyrau Bugeilio
golygu- Prif: Yr Epistolau Bugeiliol
Mae’r rhain yn lythyrau a ysgrifennwyd gan Paul i arweinwyr eglwysi i drafod materion o athrawiaeth ac ymddygiad.
hefyd weithiau:
Llyfryddiaeth
golygu- Owen Evans, Y Llythyrau Paulaidd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984)