Loc
Mae loc yn ffordd o godi neu ollwng cychod rhwng lefelau gwahanol ar gamlesi ac afonydd. Mae gatiau ar ddau ben y siambr, ac wrth reolu lefel y dŵr, mae’n bosibl codi neu ollwng cwch i fyny neu i lawr rhwng lefelau.
Math | fall structure, sluice |
---|---|
Rhan o | camlas |
Gweithredwr | ceidwad loc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gan loc tair elfen:
- Siambr yn cysylltu’r 2 lefel, yn ddigon fawr i un neu fwy o gychod.
- Giât (neu gatiau) ar 2 ben y siambr.
- ‘Gêr Loc’ i wagu neu lenwi’r siambr. Fel arfer, mae’n banel fflat, codir i ganiatau cyrhaeddiad neu ymadawiad y dŵr.
Loc mwyaf y byd yw Loc Kieldrecht yn Antwerp, Gwlad Belg.[1].
Mae'r gair Cymraeg loc weithiau mewn hen destunau, lloc, yn fenthyciad o'r Saesneg, lock a gall hefyd olygu corlan, ffald, cilfach.[2] Bellach mae'r term 'loc' i'w weld mewn cyd-destun rheoli llif camlesi neu ddŵr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan gcaptain.com
- ↑ loc. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.