Louis Lucien Bonaparte
Ieithydd a gwleidydd o Ffrainc oedd Louis Lucien Bonaparte (4 Ionawr 1813 – 3 Tachwedd 1891).
Louis Lucien Bonaparte | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Ionawr 1813 ![]() Grimley ![]() |
Bu farw | 3 Tachwedd 1891 ![]() Fano ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ieithydd, gwleidydd, tafod-ieithegydd, romanist ![]() |
Swydd | Aelod Senedd Ffrainc dros Corsica, Seneddwr Ail Ymerodraeth Ffrainc, Aelod Senedd Ffrainc dros la Seine ![]() |
Plaid Wleidyddol | Parti de l'Ordre ![]() |
Tad | Lucien Bonaparte ![]() |
Mam | Alexandrine de Bleschamp ![]() |
Priod | Marie Clémence Richard, Maria Anna Cecchi ![]() |
Plant | Louis Clovis Bonaparte ![]() |
Llinach | Tylwyth Bonaparte ![]() |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd ![]() |
Cafodd ei eni yn Grimley, Swydd Gaerwrangon, Lloegr. Roedd Bonaparte yn seneddwr ac yn dywysog, ond ei ddiddordeb pennaf oedd ieitheg.
Roedd yn fab i Lucien Bonaparte ac Alexandrine de Bleschamp.
Yn ystod ei yrfa bu'n aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc. Roedd hefyd yn aelod o Academi Gwyddoniaethau Rwsia. Enillodd ef nifer o wobrau, gan gynnwys Uwch Groes y Lleng Anrhydedd.
Bonaparte oedd perchennog yr unig gopi hysbys o Athravaeth Gristnogavl, sef catecism Catholig yn Gymraeg gan Morys Clynnog a gyhoeddwyd ym 1568, ac fe roddodd ganiatâd i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion gyhoeddi trawsgrifiad o'r llyfr hwnnw ym 1880.[1]
Bu farw Bonaparte ar 3 Tachwedd 1891 yn Fano, Marche, yr Eidal, tra ar wyliau gyda'i ffrind yr ysgolhaig o Gymro Isambard Owen.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Ellis Caerwyn Williams (1953). BONAPARTE, Y Tywysog LOUIS-LUCIEN (1813–1891).. Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Brynley F. Roberts (1996). 'A Gentle and Amiable Prince': Louis-Lucien Bonaparte and Welsh Studies. Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 1995 tud. 79–99., tud. 83