Love Island

cyfres deledu am fachu partner

Mae Love Island yn rhaglen deledu realiti a ddechreuodd yn y Lloegr yn 2005 fel Celebrity Love Island. Cafodd ei chreu gan ITV Studios a bu fersiwn Seisnig yn 2015 a sawl fersiwn rhyngwladol yn dilyn hynny.

Love Island
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Mehefin 2015 Edit this on Wikidata
Genrecyfres teledu realiti Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLove Island, cyfres 1, Love Island, cyfres 2, Love Island, cyfres 3, Love Island, cyfres 4, Love Island, cyfres 5, Love Island, cyfres 6, Love Island, cyfres 7, Love Island, season 9, Love Island, season 8, Love Island, season 10 Edit this on Wikidata
Map
DosbarthyddHulu Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.itv.com/loveisland Edit this on Wikidata

Mae'r sioe yn cynnwys grŵp o gystadleuwyr "sengl" (di-bartner), a elwir yn "ynyswyr" sy'n byw gyda'i gilydd mewn fila a adeiladwyd yn arbennig ar eu cyfer. Cânt eu hynysu o'r byd tu allan a'u nod yw dod o hyd i bartner. Mae'r ynyswyr yn cael eu monitro'n barhaus yn ystod eu harhosiad yn y tŷ gan gamerâu teledu byw yn ogystal â meicroffonau sain personol. Trwy gydol y gyfres, mae'r cystadleuwyr yn gorfod dewis cymar er mwyn osgoi cael eu diarddel o'r fila. Yn ogystal, mae'r cyhoedd yn pleidleisio dros eu hoff ynyswyr ar adegau. Wrth i'r gwrthodedig adael y fila, caiff ynyswyr newydd eu hychwanegu. Ar ddiwedd y gyfres, mae'r cyhoedd yn pleidleisio am y tro olaf dros y cwpl buddugol.

Cyfeiriadau golygu