Lucius Afranius
Bardd Lladin a meistr pennaf Rhufain ar y dull comedi boblogaidd a elwir yn Fabula Togatusoedd Lucius Afranius (fl. 100 CC).
Lucius Afranius | |
---|---|
Ganwyd | c. 150 CC Rhufain hynafol |
Bu farw | c. 90 CC Unknown |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Tad | Unknown |
Mam | Unknown |
Mabwysiadodd waith Menander fel patrwm i'w waith ei hun. Yn ôl Cicero roedd yn ysgrifennydd ffraeth ac yn feistr ar yr iaith Ladin. Dim ond ambell ddryll o'r ddeugain drama a ysgrifennodd sydd ar gael heddiw, ond mae eu teitlau'n adnabyddus.
Roedd yn awdur toreithiog. Mae teitlau ei ddramâu a'r drylliau ohonynt yn awgrymu fod Afranius yn cymryd ei themâu o fywyd teuluol y cyfnod yn bennaf. Roedd ei waith yn boblogaidd ac roedd yn dal i gael ei berfformio yn ystod teyrnasiad Nero.