Luke Helder
Bomiwr a chyn-fyfyriwr Prifysgol Wisconsin-Stout ydy Luke Helder (ganwyd 5 Mai 1981), sy'n enwog am ei sbri o fomio yng nghanol-orllewin UDA ym Mai 2002, gan dderbyn y llysenw The Midwest Pipe Bomber gan wasg y byd.
Luke Helder | |
---|---|
Ffugenw | Midwest Pipe Bomber |
Ganwyd | 5 Mai 1981 Pine Island, Minnesota |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gitarydd, myfyriwr, terfysgwr |
Gosododd ddeunaw bom peipen mewn blychau post ym mhum talaith, mewn lleoliadau a ffurfiodd siâp wyneb sy'n gwenu ar y map. Anafwyd chwe pherson pan ffrwydrodd y bomiau.
Penderfynwyd yn 2004 bod Helder yn analluog i wynebu treial, ond carcharir o hyd yng Nghanolfan Feddygol Ffederal Rochester, Minnesota.