Médenine
Tref yn ne Tiwnisia sy'n ganolfan weinyddol y dalaith o'r un enw yw Médenine. Gorwedd y dref i'r de-ddwyrain o Gabès. Mae ganddi boblogaeth o tuag 20,000.
Math | municipality of Tunisia ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 109,409 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Médenine ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 33.3547°N 10.5053°E ![]() |
Cod post | 4100 ![]() |
![]() | |
Mae Medenine yn ganolfan cludiant bwysig. Ei hunig atyniad i ymwelwyr yw'r hen gastell Ksar Medenine, sy'n dyddio o'r 17g. 6 km i'r gorllewin ceir pentref bychan Metameur gyda ksar arall o'r un cyfnod.