MULTOS
Mae'r term MULTOS yn cynrychioli (yn Saesneg) "Multi-application smart-card Operating System", sef system weithredu ar gyfer cerdiau clyfar aml-raglen yw MULTOS.
Y gwahaniaeth allweddol rhwng MULTOS, o'i gymharu a systemau gweithredu cerdiau clyfar eraill, yw ei fod yn defnyddio system o amgryptio goriad-cyhoeddus, sy'n golygu bod y corff (e.e. banc) sy'n cynnig y cerdyn yn medru cadw rheolaeth lwyr ar y rhaglenni a osodir ac a ddileir o'r cerdyn. Gwneir hyn drwy ddefnyddio Awdurdod Rheoli Goriadau (ARhG). Mae'r ARhG yn rhoi'r gallu i berchennog y cerdyn i glymu'r cerdyn i'r perchennog. Golyga hyn mai dim ond perchennog y cerdyn sy'n medru newid y rhaglenni ar y cerdyn - ac medrent wneud hynny dros sianeli sydd heb gael eu gwarchod ac heb y perygl o ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol.
Cyhoeddwyd yn 2013 bod 500 miliwn cerdyn MULTOS wedi cael eu creu [1].
MAOSCO
golyguCorff aelodaeth agored yw MAOSCO (Consortiwm MULTOS), sy'n hyrwyddo ac yn hybu datblygiad MULTOS fel y safon fyd-eang fwyaf diogel ar gyfer cerdiau clyfar.
Gweithredolwyr MULTOS
golyguMae nifer o gwmniau wedi gweithredu manylebau MULTOS.
- MULTOS International (Awstralia)
- Ubivelox (Corea)
- Hitachi (Siapan)
- Samsung (Corea)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Dathlu 500 miliwn cerdyn MULTOS". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-26. Cyrchwyd 2013-12-08.