Mabel Beardsley
Roedd Mabel Beardsley (24 Awst 1871 - 8 Mai 1916) yn actores Fictoraidd o Loegr ac yn chwaer hynaf y darlunydd enwog Aubrey Beardsley, a chafodd "dipyn bach o enwogrwydd am ei hymddangosiad egsotig a gwladaidd", yn ôl cofiannydd ei brawd,.[1]
Mabel Beardsley | |
---|---|
Ganwyd | 24 Awst 1871 |
Bu farw | 8 Mai 1916 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | actor, newyddiadurwr |
Bywyd
golyguGanwyd Beardsley yn Brighton ar 24 Awst 1871.[2][3] Roedd ei thad, Vincent Paul Beardsley (1839 – 1909), yn fab i grefftwr; Fodd bynnag, nid oedd gan Vincent unrhyw fasnach ei hun, ac yn hytrach dibynnodd ar incwm preifat o etifeddiaeth a gafodd gan daid ei fam pan oedd yn 21 oed.[4] Roedd gwraig Vincent, Ellen Agnus Pitt (1846 – 1932), yn ferch i'r Uwchgapten Llawfeddygol William Pitt o Fyddin India. Roedd y teulu Pitt yn deulu sefydledig ac uchel ei barch yn Brighton, a phriododd mam Beardsley ddyn â statws cymdeithasol llai nag y gellid bod wedi'i ddisgwyl. Yn fuan ar ôl eu priodas, roedd yn rhaid i Vincent werthu peth o'i eiddo er mwyn setlo hawliad am ei "dorri addewid" gan fenyw arall a honnodd ei fod wedi addo ei phriodi.[5] Ym 1883, ymgartrefodd ei theulu yn Llundain, ac yn y flwyddyn ganlynol, ymddangosodd yn gyhoeddus yn chwarae mewn sawl cyngerdd gyda'i brawd Aubrey.
Ym 1902, priododd ei chyd actor George Bealby Wright,[1] roedd o tua 25 oed, ac yn defnyddio'r enw llwyfan George Bealby.[6]
Bu farw ar 8 Mai 1916,[7] a'i chladdu ym Mynwent St. Pancras, Llundain.[8]
Portreadau ar y cyfryngau
golyguYn Aubrey drama yn y gyfres Playhouse ym 1982, a ysgrifennwyd gan John Selwyn Gilbert, cafodd Beardsley ei chwarae gan yr actores Rula Lenska.
Ymddangosiadau
golygu- Four Little Girls gan Walter Stokes Craven, agorwyd yn Theatr y Criterion, 17 Gorffennaf 1897.[9]
- The Queen's Proctor, Royalty Theatre, Mehefin 1896
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Aubrey Beardsley, Henry Maas, John Duncan, W. G. Good, The letters of Aubrey Beardsley, Publisher: Fairleigh Dickinson Univ Press, 1970, ISBN 0838668844, 9780838668849, 472 pages, page 394
- ↑ Matthew Sturgis, "Aubrey Beardsley: A Biography", New York Times online
- ↑ "England, Births and Christenings, 1538-1975," index, FamilySearch, accessed 5 April 2012, Mabel Beardsley (1871).
- ↑ Sturgis, tud. 8
- ↑ Sturgis, tud. 10
- ↑ Malcolm Easton, Aubrey and the dying lady: a Beardsley riddle, Publisher: Secker and Warburg, 1972, 272 pages, pages xx and 219
- ↑ David A. Ross, Critical Companion to William Butler Yeats, Publisher: Infobase Publishing, 2009, ISBN 1438126921, 9781438126920, 652 pages, page 270
- ↑ Mabel Beardsley Wright at findagrave.com, adalwyd 20 Mehefin 2020
- ↑ Henry Maas, John Duncan, W.G. Good, The Letters of Aubrey Beardsley, Publisher: Fairleigh Dickinson Univ Press, 1970, ISBN 0838668844, 9780838668849, 472 pages, page 347