Mabyn ach Brynach
santes Geltaidd
Santes o Gernyw o'r 6g oedd Mabyn.
Mabyn ach Brynach | |
---|---|
Mabyn mewn ffenestr yn Sant Neot | |
Ganwyd | 5 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 18 Tachwedd |
Tad | Brynach Wyddel |
Mam | Cymorth |
Roedd hi'n ferch i Cymorth a Brynach ac yn chwaer i Mynfer, Mwynen (Morwenna) ac Endelyn (Endellion) ac felly'n or-wyres i Brychan Brycheiniog.[1] Ganwyd hi yng Nghernyw ar ôl i'r teulu symud yno o dde Cymru.[2]
Sefydlodd llan ger y lle a elwir heddiw yn Sant Mabyn, Cernyw.[1][2] Mae'r eglwys gyfoes, a cysegri iddi, ar safle agored i'r tywydd ond gelwir pentref mewn cwm cyfagos yn 'Trefyglos' (tref-eglwys) a cheir 'Ffynnon Mabyn' gerllaw. Mabyn yw un o'r seintiau a ddarlunnir mewn ffenestr lliw a wnaethpwyd yn 1593 yn Eglwys Sant Neot yng Nghernyw; gelwir hi'n "ffenestr y gwragedd".[1][2][3]
Gweler hefyd
golyguDylid darllen yr erthygl hon yng nghyd-destun yr erthygl "Santesau Celtaidd 388-680