Niccolò Machiavelli

diplomydd Eidalaidd a damcaniaethwr gwleidyddol a milwrol (1469-1527)
(Ailgyfeiriad o Machiavelli)

Diplomydd, athronydd gwleidyddol, bardd a dramodydd Eidalaidd oedd Niccolò Machiavelli (3 Mai 146921 Gorffennaf 1527). Roedd yn byw mewn cyfnod cyffrous iawn yn hanes yr Eidal. Nid oedd yr Eidal yn unedig ar y pryd, yn hytrach wedi ei rhannu i fyny i lawer o dywysogaethau megis Fflorens, Fenis a Rhufain. Roedd yn gyfnod o frwydro rhwng y Tywysogaethau, Sbaen a Ffrainc.

Niccolò Machiavelli
Ganwyd3 Mai 1469 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1527 Edit this on Wikidata
o peritonitis Edit this on Wikidata
Sant'Andrea in Percussina, Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, hanesydd, athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol, tactegydd milwrol, cyfieithydd, bardd, diplomydd, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amIl Principe, Discourses on Livy Edit this on Wikidata
Mudiadyr Uchel Ddadeni Edit this on Wikidata
TadBernardo Di Niccolò Machiavelli Edit this on Wikidata
MamBartolomea Di Stefano Nelli Edit this on Wikidata
PlantPiero Macchiavelli, Bartolomea Macciavelli, Bernardo Macciavelli, Ludovico Macciavelli, Guido Machiavelli Edit this on Wikidata
PerthnasauNiccolò Machiavelli Edit this on Wikidata
llofnod

Ysgrifennodd y llyfr Il Principe, a gyhoeddwyd ym 1532 wedi ei farw.

Hanes Machiavelli a Fflorens o 1494 ymlaen golygu

  • 1494 – Teulu'r Medici yn colli grym a Girolamo Savonarola yn arwain y weriniaeth rydd. Machiavelli yn cael swydd gyhoeddus yn y lywodraeth newydd.
  • 1498 – Savonarola yn colli cefnogaeth y bobl ac yn cael ei ddienyddio ond y weriniaeth yn parhau.
  • 1500 – Danfonwyd Machiavelli i drafod y rhyfel yn erbyn Pisa gyda Louis XII.
  • 1503 – Danfonwyd Machiavelli i arolygu yr etholiad i ganfod olynydd i'r Pab Pius III.
  • 1512 – Y Medici yn dod yn ôl i rym a'r weriniaeth yn syrthio. Machiavelli yn colli ei swydd gyhoeddus. Fe’u hamheuwyd gan y Medici o gynllwynio yn eu herbyn felly fe’u carcharwyd ac fe’u gwestiynwyd drwy boenydio.
  • 1527 – Fe daflwyd y Medici allan o Fflorens unwaith eto gan y blaid boblogaidd. Rhuthrodd Machiavelli yn ôl i Fflorens yn y gobaith o gael ei swydd gyhoeddus yn ôl ond yn fuan ar ôl cyrraedd Fflorens fe aeth yn sâl a fu farw'r flwyddyn honno.
 
Niccolò Machiavelli

Darllen pellach golygu

  • Leonidas Donskis (gol.), Niccolò Machiavelli: History, Power, and Virtue (Amsterdam: Rodopi, 2011).

Dolenni allanol golygu