Madeleine Béjart
Actores a chyfarwyddwr theatr o Ffrainc oedd Madeleine Béjart (8 Ionawr 1618 – 17 Chwefror 1672).[1] Un o actorion llwyfan Ffrengig enwocaf yr 17eg ganrif oedd hi, a hefyd cyd-sylfaenydd (gyda'r dramodydd enwog Molière) y cwmni theatr Illustre Théâtre.
Madeleine Béjart | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1618 Paris |
Bu farw | 17 Chwefror 1672 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | actor llwyfan |
llofnod | |
Roedd Madeleine yn perthyn i deulu Béjart, teulu theatr enwog yn Ffrainc. Roedd hi'n ferch i Joseph a Marie-Herve Bejart. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf gyda'i brawd hynaf Joseph yn y Theatre du Marais.
Yn 1643 cyd-sefydlodd, gyda Molière, y Illustre Théâtre, yr oedd yn gyd-gyfarwyddwr arni. Fe’i disgrifiwyd fel gweinyddwr medrus gyda’r gallu i osgoi gwrthdaro ymhlith yr actorion. Daeth yn enwog o'i pherfformiadau llawer o'r rolau yn y dramâu gan Molière. Yn raddol, dewisodd rannau llai a gadael y prif rannau i Mademoiselle Du Parc a'i merch Armande Béjart. Roedd ganddi berthynas â Molière. Yn 1662 priododd Molière â Armande Béjart, merch i Madeleine. Parhaodd i fod yn ffrindiau gyda Moliere.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hobart Chatfield Chatfield-Taylor (1906). Molière: A Biography (yn Saesneg). Duffield. t. 409.