Cynghrair o bobl sydd ynghlwm â throseddau wedi'u trefnu ydy'r Maffia. Maent yn fwyaf enwog am lwgr-fasnachu amddiffynnol sef defnyddio bygythiadau o drais er mwyn manteisio ar weithgarwch economaidd lleol; delio mewn cyffuriau a thwyll ariannol. Caiff aelodau'r grŵp eu huno gan gôd anrhydedd, yn benodol y côd o dawelwch (neu'r omertà yn ne'r Eidal), ac mae hyn yn amddiffyn y Maffia rhag ymyrraeth allanol gan heddluoedd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Paoli, Mafia Brotherhoods, p. 109