Ynys yn aber afon Amazonas ar arfordir Brasil yw Marajó. Gydag arwynebedd o 40,100 km², hi yw'r ynys fwyaf yn y byd sydd a dŵr croyw o'i hamgylch. Mae'r boblogaeth tua 250,000. Saif dinas Belém ar lan ddeheuol afon Amazonas gyferbyn a'r ynys.

Llun lloeren o aber Amazonas ac ynys Marajó

Yn ystod yr epidemig mawr o'r ffliw Sbaenig yn 1918-1919, Marajó oedd yr unig ardal boblog lle na chofnodwyd unrhyw achos o'r afiechyd.