Marchnad Abertawe

marchnad yng Nghymru

Lleolir Marchnad Abertawe sef marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol dinas Abertawe.[1] Gorchuddir y farchnad gan do ffram ddur bwaog ac mae hwnnw wedi ei orchuddio gan ddur a gwydr. Adeiladwyd y farchnad bresennol gan Percy Edwards ym 1959-1960. Dyma'r bedwaredd farchnad i gael ei hadeiladu ar y safle yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Roedd y farchnad flaenorol ar y safle hwn wedi bod yno ers 1894 a chafodd ei dinistrio yn ystod y Blitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r safle wedi cael ei defnyddio fel marchnad ers yr Oesoedd Canol. Yn ymylu ar y farchnad, ceir Canolfan Siopa'r Quadrant.

Marchnad Abertawe
Mathadeilad, marchnad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.618°N 3.95°W Edit this on Wikidata
Map
Mynedfa

Gwerthir amrywiaeth o nwyddau yn y farchnad, o ffrwythau a llysiau ffres, i gig, pysgod a byrbrydiau a cheir stondinau a caffis yno sy'n gwerthu danteithion lleol a rhyngwladol fel selsig Almeinig, bara lawr Cymreig a chocos o Benclawdd.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu