Margaret Lloyd (aelod o'r gynulleidfa Forafaidd)

un o aelodau gwreiddiol y gynulleidfa Forafaidd yn Llundain (1709 -1762)

Aelod o'r Gynulleidfa Forafaidd oedd Margaret Lloyd (27 Mai 1709 – 8 Medi 1762) ac un o deulu Llwydiaid Hendre-waelod a Llangystennin (ceir cofysgrifau yn Eglwys Llangystennin). Fe'i ganed yn Llangystennin (neu weithiau Llangwstennin), i'r de-ddwyrain o Llandudno a Llanrhos ym Mwrdeisdref Sirol Conwy.[1] Bu ei brawd Robert Lloyd (1707 - 1753) yn rheithor Aber.

Margaret Lloyd
Ganwyd27 Mai 1709 Edit this on Wikidata
Llangystennin Edit this on Wikidata
Bu farw8 Medi 1762 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
Man preswylRiding Gorllewinol Swydd Efrog, Leeds Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethymgyrchydd Edit this on Wikidata

Wedi symud i Lundain, ymunodd â'r Wesleaid, ond yn 1740 daeth dan ddylanwad y Morafiaid, ac yn 1741 rhoes ei holl amser i'w hachos.[2] Mae'r Eglwys Forafaidd yn fudiad Protestanaidd. Yn 1743, fe'i hanfonwyd i Swydd Efrog i arolygu'r gwaith Morafaidd ymhlith y "chwiorydd dibriod".

Arwyddlun yr eglwys yn cynnwys yr Agnus Dei. Gwydr lliw yn Rights Chapel of Trinity Moravian Church, Winston-Salem, Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America.

Fe'i priodwyd yn Swydd Efrog ar 27 Awst 1744, gyda Thomas Moore. Gwrthryfelodd y ddau yn erbyn yr unbennaeth Almaenaidd a lywodraethai'r genhadaeth Forafaidd yn Swydd Efrog, a diswyddwyd hwy. Yn ddiweddarach, fe gefnodd y ddau ar Eglwys y Brodyr, ond yn y diwedd dychwelon nhw ati.[3][4][5][2][6]

Bu farw Margaret Lloyd yn Leeds, 8 Medi 1762, a'i chladdu yn "Erw'r Brodyr" yn Fulneck, Pudsey yn West Riding Swydd Efrog.

Cyfeiriadau golygu

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969), Bangor (cyhoeddwyd 1953).
  1. "A Register of Members of the Moravian Church, and of Persons Attached to Said Church in this Country and Abroad, between 1727 and 1754". Archive.org. Cyrchwyd 26 Mawrth 2016.
  2. 2.0 2.1 "LLOYD (later MOORE ), MARGARET". Y Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  3. Dyddiad geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
  4. Dyddiad marw: https://biography.wales/article/s-LLOY-MAR-1709. Y Bywgraffiadur Cymreig. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2019.
  5. Crefydd: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977. Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
  6. Jenkins, Robert Thomas (1938). Y Cymmrodor. Honourable society of cymmrodorion. tt. 28–9.