Marguerite de Valois
Merch Harri II, brenin Ffrainc a Catrin de Medici, a gwraig Henri de Navarre (Harri IV, brenin Ffrainc) oedd Marguerite de Valois, a elwir hefyd yn "La Reine Margot (14 Mai 1553 – 27 Mawrth 1615). Daeth yn frenhines Ffrainc ac yn llenores.[1]
Marguerite de Valois | |
---|---|
Ganwyd | Marguerite de Valois 14 Mai 1553 Saint-Germain-en-Laye |
Bu farw | 27 Mawrth 1615 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | perchennog salon, llenor |
Swydd | royal consort, Queen Consort of France |
Tad | Harri II, brenin Ffrainc |
Mam | Catrin de Medici |
Priod | Harri IV, brenin Ffrainc |
Partner | Jacques de Harlay |
Llinach | House of Valois, House of Bourbon |
llofnod | |
Gwaith llenyddol
golyguRoedd Margot yn fardd ac yn epistolydd. Ei phrif waith yw ei Mémoires (Atgofion) sy'n cynnwys disgrifiadau bywiog a chofiadwy o rai o'r digwyddiadau hanesyddol y bu'n dyst iddynt, fel Cyflafan Gŵyl Sant Bartholomew, ynghyd â brasluniau mewn arddull ffres a thrawiadol o gymeriadau'r llys, yn arbennig y merched. Ei hysgrifennydd personol oedd y bardd François Maynard (1582-1646). Roedd hi ar delerau da â'r llenor Brantôme (c.1540-1614) hefyd, awdur y Recueil des dames a'r Dames Gallantes.
Ffuglen
golyguYsgrifennodd Alexandre Dumas (père) y nofel ramantaidd La Reine Margot yn seiledig ar brofiadau Margot adeg Cyflafan Gŵyl Sant Bartholomew yn 1846.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Charlotte Franken Haldane (1968). Queen of Hearts: Marguerite of Valois ('La Reine Margot') 1553-1615 (yn Saesneg). Constable. t. 3. ISBN 978-0-486-11894-9.