Mari George

Awdur, bardd a sgriptiwr o Gymraes

Awdures Cymreig yw Mari George (ganed 1973).

Mari George
Ganwyd1973 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Ganed Mari George ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mynychodd Ysgol Gyfun Llanhari a Choleg Prifysgol Abertawe lle yr astudiodd ar gyfer gradd BA yn y Gymraeg gan fynd ymlaen i astudio gradd MA ar y bardd Wil Ifan. Enillodd Fedal Lenyddiaeth a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â chadeiriau eraill mewn eisteddfodau lleol. Cyhoeddodd nifer o gerddi mewn cylchgronau fel Taliesin a Barddas a chyfrolau cymysg ond Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt yw ei chyfrol unigol cyntaf. Mae'n wyneb adnabyddus yn nosweithiau Stomp yr Eisteddfod ac yn llais cyfarwydd ar Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru. Mae'n byw bellach yng Nghaerdydd, ac yn gweithio fel Golygydd Sgriptiau/Awdur yn Adran Ddrama BBC Cymru.[1]

Llyfrau golygu

Mae Mari wedi cyfieithu neu addasu nifer o lyfrau gan gynnwys;

  • Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt
  • Y Ferch Wyllt
  • Y Gwningen a'r Arth
  • Gwningen a'r Arth, Y: Arferion Od Cwningod (2019)
  • Cyfres Amdani: Pass y Sugnydd Llwch Darling (2018)

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 9781912261970, Gwningen a'r Arth, Y: Arferion Od Cwningod". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-16.