Marilyn Ferguson
Awdures Americanaidd oedd Marilyn Ferguson (5 Ebrill 1938 - 19 Hydref 2008) a oedd hefyd yn siaradwr cyhoeddus a golygydd. Fe'i cofir yn bennaf am ei llyfr The Aquarian Conspiracy a'i chysylltiad gyda'r New Age Movement o fewn dilwylliant pop.
Marilyn Ferguson | |
---|---|
Ganwyd | 5 Ebrill 1938 Grand Junction |
Bu farw | 19 Hydref 2008 Banning |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, golygydd cyfrannog |
Fe'i ganed yn Grand Junction, Colorado a bu farw yn Banning. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Colorado a Phrifysgol Colorado Mesa.[1][2]
Cyd-sefydlodd y Gymdeithas Seicoleg Ddyneiddiol (Association of Humanistic Psychology), cyhoeddodd a golygodd Ferguson y cylchlythyr gwyddoniaeth Brain / Mind Bulletin o 1975 i 1996. Enillodd sawl gradd anrhydeddus, a gwasanaethodd ar fwrdd cyfarwyddwyr y 'Sefydliad y Gwyddoniaeth Noetic', a daeth yn gyfaill i'r dyfeisiwr a'r damcaniaethwr Buckminster Fuller, awdur ysbrydol Ram Dass, yr enillydd Gwobr Nobel Ilya Prigogine a'r biliwnydd Ted Turner. Dylanwadodd gwaith Ferguson hefyd ar yr Is-lywydd Al Gore, a gymerodd ran yn ei rhwydwaith anffurfiol tra oedd yn seneddwr ac a gyfarfu â hi yn ddiweddarach yn y Tŷ Gwyn. [3]
Yn ystod ei phriodas gyntaf, i Don Renzelman, gweithiodd fel ysgrifenyddes gyfreithiol a daeth yn awdur nifer o straeon byrion a barddoniaeth mewn cylchgronau cenedlaethol fel Cosmopolitan. Yn ddiweddarach ysgrifennodd erthyglau fel llawrydd ar gyfer cyhoeddiadau fel Time. Yn 1968 ar ôl byw am gyfnod byr yn Houston, Texas, symudodd i California gyda'i hail ŵr, Mike Ferguson. Y flwyddyn honno, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, ar economeg y cartref, gyda'i gŵr fel cyd-awdur.
Llyfryddiaeth
golygu- The Brain Revolution: The Frontiers of Mind Research (Taplinger Publishing, 1973) ISBN 0-8008-0961-0, ISBN 978-0-8008-0961-4, ISBN 978-0-8008-0961-4, ISBN 0-8008-0961-0
- The Aquarian Conspiracy: Personal and Social Transformation in Our Time (J.P. Tarcher, 1980; 1987) ISBN 0-312-90418-5, ISBN 978-0-312-90418-0, ISBN 978-0-312-90418-0, ISBN 0-312-90418-5, ISBN 0-87477-116-1, ISBN 978-0-87477-116-9, ISBN 978-0-87477-116-9 ISBN 0-87477-116-1
- PragMagic: Ten Years of Scientific Breakthroughs, Exciting Ideas, and Personal Experiments That Can Profoundly Change Your Life (Pocket Books, 1990) ISBN 0-671-66824-2, ISBN 978-0-671-66824-2, ISBN 978-0-671-66824-2, ISBN 0-671-66824-2
- Aquarius Now: Radical Common Sense and Reclaiming Our Personal Sovereignty (Red Wheel/Weiser, 2005) ISBN 1-57863-369-9
- "Brain/Mind Bulletin"
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad marw: http://www.latimes.com/news/obituaries/la-me-ferguson2-2008nov02,0,4530223.story.
- ↑ Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 18 Tachwedd 2024.