Chwiliedydd gofod di-griw a anfonwyd gan NASA i archwilio'r blaned Mawrth oedd Mariner 9. Fe’i lansiwyd o Cape Canaveral yn Florida, yr Unol Daleithiau, ar 30 Mai 1971 a chyrhaeddodd y blaned Mawrth ar 14 Tachwedd yr un flwyddyn. Felly, hi oedd y llong ofod gyntaf i orbitio planed arall. Ar ôl misoedd o stormydd llwch llwyddodd i anfon lluniau clir o'r wyneb yn ôl i'r Ddaear. Dychwelodd Mariner 9 7,329 o ddelweddau yn ystod ei orchwyl, a ddaeth i ben ym mis Hydref 1972.

Mariner 9
Enghraifft o'r canlynolrobotic spacecraft, lloeren Edit this on Wikidata
Màs997.9 cilogram, 997.9 cilogram, 558.8 cilogram Edit this on Wikidata
Rhan oRhaglen Mariner Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganMariner 8 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganMariner 10 Edit this on Wikidata
GweithredwrLabordy Propulsion Jet Edit this on Wikidata
GwneuthurwrLabordy Propulsion Jet Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.6014 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerbyd gofod Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.