Marjorie Clark, Arglwyddes Clark

Roedd Marjorie Clark (ganwyd Marjorie Lewis; 14 Gorffennaf 19249 Mawrth 2022), neu Arglwyddes Clark, yn weithredwr radio yn ystod yr Ail Rhyfel y Byd.[1]

Marjorie Clark, Arglwyddes Clark
Ganwyd14 Gorffennaf 1924 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
PriodRobert Clark Edit this on Wikidata

Cafodd Andolyn Marjorie Beynon Lewis ei geni yn Ystalyfera, yn ferch i Andolyn a Howell Lewis. Bu farw ei mam yn ystod yr enedigaeth[2] Roedd ganddi chwaer, Gwenda. Cafodd ei haddysg yng Ngholeg Merched Cheltenham. Ym 1943 daeth swyddog o'r llywodraeth yno i recriwtio disgyblion i ymuno â'r Awdurdod Gweithrediadau Arbennig (Special Operations Executive).[1] Priododd Lewis a Robert Clark (m. 2013), swyddog y cyfarfu ag ef yn ystod yr Ail Rhyfel y Byd. Yn ddiweddarach daeth e'n fanciwr a chafodd ei urddo'n farchog. Roedd y teulu’n byw mewn tŷ yn Surrey, cyn-gartref y garddwriaethwr Gertrude Jekyll, a oedd wedi’i ddylunio gan Edwin Lutyens.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Lady Clark obituary". The Times (yn Saesneg). 4 Ebrill 2022. Cyrchwyd 5 Ebrill 2022.
  2. "Marjorie Lewis". Special Forces Roll of Honour (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Ebrill 2022.