Martyn Ashton
Beiciwr mynydd treialon a rheolwr tîm Cymreig ydy Martyn Ashton (ganwyd 2 Rhagfyr 1974).[1] Mae wedi bod yn reidio treialon yn broffesiynol ers 1993[2] a disgrifiwyd e'n aml fel "reidiwr chwedlonol".[3][4] Dywedir mai e'n bennaf sydd wedi troi reidio treialon o ffurf arbenigol o reidio i'r chwaraeon fel yr adnabyddir ef heddiw.[5]
Animal Bike Tour, Aberystwyth, Mehefin 2007 | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Martyn Ashton |
Dyddiad geni | 12 Chwefror 1974 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Beicio Mynydd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Treialon |
Tîm(au) Proffesiynol | |
1997 2005 2008– |
Volvo - Cannondale Animal MBUK Team Ashton Diamondback |
Prif gampau | |
Pencampwr Iau y Byd | |
Golygwyd ddiwethaf ar 20 Ionawr 2012 |
Bywgraffiad
golyguDechreuodd Ashton fel reidiwr treialon beic modur, gan droi at dreialon beicio mynydd yn ddiweddarach.[5] Mae wedi bod yn flaenwr The Bike Tour ers 2002, ac yn bencampwr Treialon Beic Prydain am bedair mlynedd yn olynol, yn ogystal â Phencampwr "Expert" Treialon Beic y Byd. Ashton hefyd yw deiliad Record Naid Uchel y Byd ar feic mynydd. Cafodd hefyd ei ychwanegu at Hall of Fame Mountain Biking UK.[2]
Nid reidio treialon yn unig mae Ashton, mae hefyd wedi cynllunio'r llwyfanau arddangos[6] a bu'n dylunio cynnyrch ar gyfer ei frand ei hun, Ashton Bikes, ers 2002.[3] Mae wedi ymddangos ar sioeau teledu, cloriau cylchgronau a fideos beicio mynydd, ac mae ganddo golofn ei hun, Hop Idol, yn y cylchgrawn MBUK.[3] Mae'n byw ym Mhort Talbot, De Cymru.
Torrodd Ashton ei gefn yn 2003, wedi iddo gywasgu fertebra a'i thorri ar ôl camfarnu glaniad, ond ni fu'n hir cyn dychwelyd at reidio.[7]
Sefydlodd Tim Ashton Diamondback er mwyn darparu cefnogaeth ar gyfer reidwyr ifanc. Er ei bod yn reidwyr o'r safon uchaf ac â'r gallu i ennill canlyniadau rhyngwladol, nid yw Ashton yn credu mai canlyniadau yw popeth, felly mae'r tîm yn canolbwyntio ar dderbyn sylw positif gan y wasg yn ogystal â chystadlu. Datblygwyd ystod o feiciau Team Ashton yn 2008, a rhyddhawyd hwy yn Hydref 2008 fel rhan o'r gyfres Diamondback 2009.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Martyn Ashton. Cycling Website. Adalwyd ar 4 Ionawr 2012.
- ↑ 2.0 2.1 Martyn Ashton. Ashton Bikes.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-12. Cyrchwyd 2012-01-20. Unknown parameter
|teitl=
ignored (help); Unknown parameter|cyhoeddwr=
ignored (help) - ↑ http://www.adsprojects.com/photo_1083537.html. Unknown parameter
|teitl=
ignored (help); Unknown parameter|cyhoeddwr=
ignored (help); Missing or empty|title=
(help) - ↑ 5.0 5.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-13. Cyrchwyd 2012-01-20. Unknown parameter
|teitl=
ignored (help); Unknown parameter|cyhoeddwr=
ignored (help) - ↑ ANIMAL MOUNTAIN BIKE CHAMPIONS, MARTYN ASHTON AND GRANT ‘CHOPPER’ FIELDER, AT THE SPORTSBOAT AND RIB SHOW. Southampton Sports Boat and RIB Show (4 Mai 2005).
- ↑ UK Trials ace Ashton recovering from broken back (Chwefror 2003).
- ↑ About Team Ashton. Ashton Bikes.