Mary Ritter Beard

Ffeminist a hanesydd Americanaidd oedd Mary Ritter Beard (5 Awst 1876 - 14 Awst 1958) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel archifydd a swffragét.

Mary Ritter Beard
GanwydMary Ritter Edit this on Wikidata
5 Awst 1876 Edit this on Wikidata
Indianapolis Edit this on Wikidata
Bu farw14 Awst 1958 Edit this on Wikidata
Phoenix Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, archifydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodCharles Austin Beard Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Indianapolis ar 5 Awst 1876; bu farw yn Phoenix ac fe'i claddwyd ym Mynwent Ferncliff. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol DePauw, Indiana a Phrifysgol Columbia.[1][2][3][4][5][6]

Fe chwaraeodd ran bwysig yn yr ymgyrch dros bleidlais i fenywod, sef yr etholfraint, ac roedd yn eiriolwr gydol oes dros gyfiawnder cymdeithasol trwy addysg ac ymgyrchodd yn y mudiadau dros hawliau llafur a menywod. Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar rôl menywod mewn hanes gan gynnwys On Understanding Women (1931), (Ed.) America Through Women's Eyes (1933) a Woman As Force In History: A Study in Traditions and Realities (1946). Yn ogystal, cydweithiodd gyda'i gŵr, yr hanesydd enwog Charles Austin Beard ar nifer o weithiau nodedig, yn enwedig The Rise of American Civilization (1927).[7]

Magwraeth golygu

 
Mary Ritter Beard ca. 1914-1915

Mary oedd y pedwerydd o saith o blant, a'r ferch gyntaf, a anwyd i Narcissa Lockwood ac Eli Foster Ritter.[8] Ganed Narcissa ym Mharis, Kentucky a graddiodd o Academi Brookville yn Thornton, Kentucky ac yn ddiweddarach bu'n gweithio yno fel athrawes am gyfnod byr cyn symud gyda'i theulu i Greencastle, Indiana (cartref i Asbury, Prifysgol DePauw erbyn hyn) yn 1861.

Aeth i Goleg Cristnogol Northwestern am ddwy flynedd cyn cofrestru ym Mhrifysgol Asbury yn 1861, a gwnaeth y penderfyniad annisgwyl i Grynwr o ymuno â Byddin yr Undeb yn fuan ar ôl dechrau Rhyfel Cartref America. Aeth yn ôl i Greencastle i briodi Narcissa ym 1863 cyn dychwelyd i'r fyddin lle bu'n gwasanaethu am weddill y rhyfel.[9]

Priodi golygu

Ar ôl graddio o DePauw yn 1897 cyflogwyd Mary yn ysgol breifat Greencastle fel athrawes Almaeneg tra teithiodd Charles i gychwyn cwrs ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1898. Dychwelodd i'r UDA yn 1899 a phriododd y ddau ym Mawrth 1900 a aeth hi gydag ef i Loegr fis yn ddiweddarach, lle parhaodd ei astudiaethau. Fe wnaethon nhw setl'n gyntaf yn Rhydychen ac yn ddiweddarach ym Manceinion lle ganed eu plentyn cyntaf, Miriam, ym 1901. Penderfynodd eu bod am fagu Miriam yn yr Unol Daleithiau, symudon nhw i Ddinas Efrog Newydd yn 1902 lle bu'r ddau ohonynt yn fyfyrwyr graddedig ym Mhrifysgol Columbia. Er i Mary roi'r gorau i'w hastudiaethau Cymdeithaseg, cwblhaodd Charles ei ddoethuriaeth, daeth yn ddarlithydd ac yna'n athro yn Columbia lle arhosodd hyd 1917. Ganwyd eu mab William ym 1907.[10][11]

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12776999x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/0xbfjxbj38pk9sw. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2006.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12776999x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: "Mary Ritter Beard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Beard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Ritter Beard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: "Mary Ritter Beard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Beard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Mary Ritter Beard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. https://www.findagrave.com/memorial/70
  6. https://www.findagrave.com/memorial/69
  7. Donald F. Carmony review of The Making of Charles A. Beard, by Marry Ritter Beard Indiana Magazine of History, Mehefin 1957, http://webapp1.dlib.indiana.edu/imh/view.do?docId=VAA4025-053-2-a15&query=text:%28Mary%20Ritter%20Beard%29.
  8. Barbara Turoff; Mary Ritter Beard as Force in History, p. 7; Ann Lane, in Mary Ritter Beard: A Sourcebook, writes of two older brothers, Halstead and Roscoe and of Ruth, the youngest of the Ritter's and mentions two other brothers, no order of birth given, Dwight and Herman, who died while a senior at DePauw University, with no mention of a fifth brother; p. 14. The Biographical Note from the Mary Ritter Beard Papers in the Sophia Smith Collection at Smith College states that Mary was the third of six children.
  9. Catherine E. Forrest Weber, "Mary Ritter Beard: Historian of the Other Half" Traces of Indiana and Midwestern History 15 no. 1 (Winter 2003): 10-11.
  10. Nancy Cott, A Woman Making History: Mary Ritter Beard Through Her Letters
  11. Lane, Ann J., gol. (1977). Mary Ritter Beard: A Source Book. New York: Schocken Books. t. 215.