Marysville (Victoria)

Mae Marysville yn dref yn nhalaith Victoria, Awstralia, 34 cilomedr i'r gogledd-ddwyrain o Healesville a 41 cilomedr i'r de o Alexandra. Mae twristiaeth yn bwysig i'r ardal. Mae Rhaeadr Steavenson i de-ddwyrain y dref, ar Afon Steavenson, sydd yn llifo trwy barc Gallipoli ynghanol Marysville.[1]

Marysville
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth394, 501, 453 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirVictoria, Shire of Murrindindi Edit this on Wikidata
GwladAwstralia Edit this on Wikidata
Uwch y môr421 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.5°S 145.7333°E Edit this on Wikidata
Cod post3779 Edit this on Wikidata
Map
Cartrefi dros dro wedi'r tân
Coed wedi llosgi

Ar 7 Chwefror 2009, lladdwyd 34 o bobl y dref gan dân. Llosgwyd 90% o'r adeiladau. Er fod y tywydd yn anarferol o boeth, credwyd bod y tân wedi cael ei ddechrau'n fwriadol.[2]

Erbyn hyn mae 'Amgueddfa Dydd Sadwrn Du' yn cofnodi'r digwyddiad[3]

Enwogion y dref golygu

Cyfeiriadau golygu