Maswr (rygbi)
Safleoedd Rygbi'r Undeb |
---|
Blaenwyr
Cefnwyr |
Mae'r Maswr (rhif 10) yn un o'r safleoedd mwyaf dylanwadol ar y cae yn rygbi'r undeb. Gwna'r maswr benderfyniadau tactegol allweddol yn ystod y gêm - p'un ai i gicio i ennill tir neu er mwyn mantais dactegol, ai rhoi'r bêl i'r cefnwyr, ai ei dychwelyd i'r blaenwyr i wthio ymlaen, neu redeg gyda'r bêl ei hunan. Dylai fod yn rhedwr cyflym a thwyllodrus, gyda'r gallu i wneud penderfyniadau cyflym, gan gyfarwyddo'r llinell gefn wrth amddiffyn ac ymosod. Mae'n rhaid iddo fod a sgiliau trafod a chicio da gyda'r gallu i ymdopi â phwysau. Mae sgiliau arwain da yn hanfodol ynghyd â sgiliau amddiffyn cryf.