Matthew Parker
Clerigwr Anglicanaidd o Sais oedd Matthew Parker (6 Awst 1504 – 17 Mai 1575) a fu'n Archesgob Caergaint o 1559 i 1575 ac yn un o arweinwyr sefydlogi hunaniaeth unigryw Eglwys Loegr yn ystod teyrnasiad y Frenhines Elisabeth.
Matthew Parker | |
---|---|
Portread o'r Archesgob Matthew Parker gan arlunydd anhysbys. | |
Ganwyd | 6 Awst 1504 Norwich |
Bu farw | 17 Mai 1575, 1575 Lambeth Palace |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Archesgob Caergaint |
Plant | John Parker |
Ganed ef yn Norwich, Norfolk, a chafodd ei addysg yn Neuadd y Santes Fair a Choleg Corpus Christi, Caergrawnt. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys Gatholig ym 1527, er yr oedd eisoes yn cydymdeimlo â syniadaeth Luther. Gwasanaethodd yn ddeon mewn coleg offeiriaid yn Suffolk o 1535 i 1547. Wedi ei ethol yn feistr Coleg Corpus Christi ym 1544, aeth ati i ddiwygio'r llyfrgell (byddai'n cymynroddi ei lawysgrifau cain i'r honno). Fe'i penodwyd i sawl swydd arall yn y cyfnod hwn, gan gynnwys caplan i'r Brenin Harri VIII ym 1538 ac is-ganghellor Prifysgol Caergrawnt ym 1545 a 1549. Yn sgil esgyniad Mari I i'r orsedd, gorfodwyd iddo ymddiswyddo o'r brifysgol ym 1553 a ffoes i Frankfurt-am-Main.
Dychwelodd i Loegr wedi i Elisabeth olynu Mari, a derbyniodd, yn anfodlon, Archesgobaeth Caergaint. Fe'i cysegrwyd ym Mhalas Lambeth ar 19 Rhagfyr 1559. Byddai'n un o'r garfan Anglicanaidd, a geisiodd canfod ffordd ganolig rhwng Pabyddiaeth a Phiwritaniaeth. Dan ei arweiniad, cyhoeddwyd y 39 Erthygl, gan osod sail o ran athrawiaeth i'r eglwys. Ei brif gyfraniad at astudiaethau diwinyddol y cyfnod oedd Beibl yr Esgob (1563–8); Parker ei hun a gyfieithodd Lyfr Genesis, yr Efengyl yn ôl Mathew, a rhai o epistolau Paul.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 749.
- ↑ (Saesneg) Matthew Parker. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2022.