Band roc trwm o Sir Benfro oedd Mattoidz.

Wedi rhyddhau'r EP Tan Y Tro Nesa ar label Rasp yn 2003 a gydag un drymiwr yn gadael ac un newydd yn ymuno, llwyddodd Mattoidz i weddnewid eu hunain o fand roc-tafarn digon dymunol i bwerdy o egni byw, a hynny'n ddiolch i flwyddyn gyfan o gigio, perffeithio'u crefft cyfansoddi ac adeiladau fan base ffyddlon ar draws Cymru.

Erbyn i'r albwm gynta Edrych Yn Well O Bell fwrw'r siopau yn 2005 roedd cerddoriaeth gitâr trwm yn dechrau gwneud marc go-fawr ar y siartiau Prydeinig, gan leoli Mattoidz yng nghanol tirwedd cerddorol oedd yn golygu bod eu sŵn yn ffres ac yn gyfoes.

Gyda grwpiau fel Ashokan a Mattoidz yn arwain y ffordd, roedd cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith oedd yn ffans o roc trwm o'r diwedd yn gallu gwrando ar rywbeth yn eu hiaith nhw eu hunain a'i mwynhau yn fyw hefyd.

"Z-List" oedd y sengl ddaeth wedyn yn 2007, a'r flwyddyn ganlynol cafodd ail albwm y grwp ei rhyddhau, Llygaid Cau a Dilyn Trefn.

Disgyddiaeth

golygu
  • Tan y Tro Nesa EP (2003)
  • Edrych yn Well o Bell (2005)
  • Llygaid Cau a Dilyn Trefn (2008)

Dolenni allanol

golygu